Cynigia Hwb Bwyd Dyfi focsys ffrwythau a llysiau wythnosol o ansawdd uchel yn uniongyrchol i chi!
Pwy ydym ni?
Mae Hwb Bwyd Dyfi yn gynllun bocs llysiau a marchnad ar-lein nid-er-elw ar gyfer bwyd lleol, cynaliadwy ac iach.
Rydym yn darparu casgliadau a dosbarthiadau wythnosol i gwsmeriaid yn Aberystwyth a’r cyffiniau, gyda mannau gollwng yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Bow Street, Borth, Taliesin a Thal-y-bont.
Rydym yn cynnig
Cynnyrch lleol gan ystod o gynhyrchwyr (tymhorol)
Ystod eang o ddewis o gynnyrch Organig ardystiedig trwy gydol y flwyddyn
Ffresni, ansawdd a hwylustod
Cefnogaeth i’n cynhyrchwyr lleol a’r mudiad organig / amaeth-ecolegol
Pam ein bod ni’n wahanol i focsys llysiau eraill
Cynigiwn gyfle i adeiladu’ch bocs eich hun
Efallai bod yn well gennych wybod beth fydd yn eich bocs bob wythnos? Neu efallai bod gennych ardd yn llawn o’ch llysiau eich hun ac eisiau ychydig o bethau ychwanegol…
Ar ein siop gallwch ddewis eich hun o’r holl wahanol gynnyrch sydd gennym ar gael, a byddwn yn pacio’ch bocs unigol eich hun i chi!
Diolch am gefnogi’r mudiad bwyd organig a lleol.
Am ymholiadau, anfonwch e-bost at contact@bwyddyfihub.co.uk.
Dilynwch ni ar Facebook a Instagram