Ash & Elm Horticulture - Gwertha Emma a Dave ystod o ffrwythau, llysiau, planhigion, cyffeithiau, suddion, cordialau a blodau o’r fferm 5 erw ger Llanidloes. Mae Emma hefyd yn Diwtor / hyfforddwr ar brosiect Llwybrau at Ffermio / Pathways to Farming.
Fferm Blaencamel - Wedi’u lleoli yn fferm Blaencamel yng Nghilcennin mae Peter, Anne a’r teulu wedi bod yn tyfu ffrwythau a llysiau organig yng Nghwm hyfryd Aeron am dros 45 o flynyddoedd.
Caws Teifi Cheese - Ar ôl sefydlu ym 1982 Caws Teifi Cheese bellach yw’r gwneuthurwr caws artisan sydd wedi’i sefydlu hiraf yng Nghymru. Heddiw mae busnesau’r fferm a’r teulu yn cael eu rhedeg gan ddau fab John a Patrice; John-James a Robert, sy’n parhau â gweledigaeth eu rhieni ar gyfer y fferm a Chaws Teifi Cheese.
Ffermdy Cwrtycadno (Bridwyr Afal Cwm Ystwyth) - Mae James, bridiwr afalau wedi bod yn cynnig ystod o afalau blasus ac amrywiaethau ag enwau diddorol i ni eu prynu, yn ffres o’r berllan. Fel bridiwr afalau, mae James yn mwynhau cyfuno nodweddion dymunol o’r amrywiaethau masnachol, treftadaeth a lleol.
Dyfi Dairy - Rheola Sophia a Scott laethdy bach yng Nghymru gyda thosturi a pharch wrth galon ei arfer, gan gadw mamau ifanc, ffermio’n atgynhyrchiol a chynhyrchu bwyd dwys o ran maeth. Maen nhw’n cynnig llaeth blasus, halloumi, cyffug ac iogwrt bob wythnos yn yr hwb.
Einion’s Garden - Rheda Ann a John eu gwerddon o ardd marchnad ger Ffwrnais, gan gynhyrchu saladau a llysiau a ffrwythau o ansawdd uchel.
Enfys Veg - Gardd farchnad newydd wedi’i leoli yn Nhal-y-bont. Cadwch olwg am eu gwrdiau a garlleg amrywiol a blasus.
Free Range Foods - Mae gan Paul, Suzanne, Billy a’u tîm enghraifft wych o ardd farchnad wedi’i chreu o’r newydd. Maen nhw’n gweithio’n galed i gyflenwi llawer o lysiau o ansawdd uchel.
Madarch Tŷ Cynan Mushrooms - Mae madarch egsotig gan gynnwys Lion’s Mane a Wood Oyster yn tyfu mewn uned yng nghanol Penparcau. Nod Madarch Tŷ Cynan Myshrooms yw cefnogi’r sector bwyd a diod yng Nghymru a hefyd rhoi cyfle i gymunedau elwa o’n prosiect, yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol.
Mêl Calon Aur - Mêl a gynhyrchir gan y gwenyn sy’n cael eu cadw ger Perllan Treftadaeth Gogerddan, Aberystwyth lle mae’r gwenyn yn casglu mêl yn felys o’r blodau afalau a phêrs wrth iddynt beillio’r cnwd.
Fferm Nantclyd - Mae Nantclyd yn fferm deuluol fechan uwchlaw cwm Ystwyth yn agos at Aberystwyth yng ngorllewin Cymru ac mae ganddi ardystiad organig er 1989.
Gerddi Cymunedol Penglais - Gardd gymunedol a redir gan wirfoddolwyr ar dop rhiw Penglais, wrth yr Undeb Myfyrwyr.
Perllan Gogerddan - Perllan a sefydlwyd yn ddiweddar yn cynnwys cyltifarau treftadaeth a phrin o bêrs perai ac afalau seidr.
Tetrim Teas - Wedi’u lleoli yn Sir Gâr, mae Tetrim Teas yn crefftio â llaw cymysgeddau moesegol gan ddefnyddio cynhwysion naturiol, lleol. Gweithiant gyda thyfwyr lleol i gyrchu cynhwysion tymhorol, ac mae eu strwythur nid-er-elw yn golygu eu bod yn mwynhau rhoi yn ôl i’r gymuned ac i’w tyfwyr
Watson & Pratts - Cyfanwerthwr organig o ansawdd uchel wedi’i leoli yn Llambed.
Ystwyth Valley Eggs - Cynhyrchwr wyau bach, deng munud o Aberystwyth
Cig
Pori Bach - Mae cig eidion Pori Bach yn gynnyrch arbennig iawn. Mae’r holl wartheg yn bwydo ar borfa ac yn rhywogaeth allweddol wrth iddynt bori er cadwraeth gwarchodfeydd natur – gan gynnwys RSPB Ynyshir. Mae anifeiliaid sy’n pori 100% ar borfa yn golygu effeithiau cadarnhaol ar fioamrywiaeth a charbon, iechyd dynol a llesiant, ac iechyd a llesiant anifeiliaid.
Diolch am gefnogi’r mudiad bwyd organig a lleol.
Mae Hwb Bwyd Dyfi yn brosiect o dan ymbarél Bwyd Dros Ben Aber.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost at contact@bwyddyfihub.co.uk.