A box full of local fruit and vegetables from the Ceredigion area

Pam archebu gyda ni?

Rydym yn falch o gefnogi cynhyrchwyr lleol i werthu bwyd o ansawdd uchel sydd wedi’i gynhyrchu’n amaeth-ecolegol ar draws Biosffer Dyfi a’r tu hwnt. Unrhyw beth na allwn ei gyrchu’n lleol byddwn yn prynu gan ein cyfanwerthwr Welsh Organic – sydd hefyd yn ceisio cyrchu mor lleol â phosibl.

Rydym yn teimlo’n angerddol am gynyddu’r economi bwyd lleol, a helpu mwy o bobl i gyrchu llysiau a ffrwythau ffres o’r ardal leol.

Sut mae’n gweithio?

  • Mae ein siop ar-lein yn agor am 1pm Ddydd Iau ac yn cau am 7.30pm Nos Sul.

    Gallwch ddewis o ystod eang o gynnyrch ffres o ansawdd uchel neu gallwch ddewis Bocs Ffrwythau neu Lysiau bach, canolig neu fawr a byddwn yn arbed amser i chi ac yn dewis beth fydd yn y bocs i chi, gan flaenoriaethu cynnyrch lleol os yw ar gael.

  • Mae’r cynnyrch yn cael ei gynaeafu’n ffres, a’i gasglu gan gynhyrchwyr lleol ar fore Dydd Mawrth. Yna byddwn yn pacio’ch bocs pwrpasol i’w gasglu neu ei ddosbarthu.

    Gellir casglu rhwng 3.30pm a 5.30pm o’r ECO Hwb Rhannu Bwyd, 5 Y Stryd Fawr, SY23 1DE.

  • Rydym yn cynnig dosbarthu ar feic neu gar trydanol hyd at 4km allan o’r dref, ac ar bwyntiau dosbarthu rhwng Aberystwyth a Machynlleth, gan gynnwys Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Tafarn Rhyd y Pennau Inn yn Bow Street, Uncle Albert’s yn y Borth, a Garej Davmor yn Nhal-y-bont.