Aberystwyth: Cymuned, Bwyd a Gweledigaeth

Original blog post from the National Assembly of Wales for the Senedd@Aberystwyth events - Welsh version:

Rydyn ni’n dod â’r Cynulliad i chi

Fel rhan o’n cynllun Senedd@ rydym wedi bod yn cyfarfod â grwpiau cymunedol ac ymgyrchwyr ledled Aberystwyth i gael gwybod mwy am eu gweledigaethau ar gyfer dyfodol y dref a’r cymunedau cyfagos. O iechyd i addysg, yr amgylchedd a bwyd, mae’r Cynulliad yn gyfrifol am wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar ein bywydau o ddydd i ddydd. Rydyn ni’n meddwl ei bod yn bwysig, ble bynnag rydych chi’n byw yng Nghymru, i chi gael gwybod sut mae’r rhain yn cael eu gwneud ac yn bwysicaf oll – sut gallwch chi ddweud eich dweud.

Ar 28 Tachwedd, gwnaethom ymuno â Bwyd Dros Ben Aber i greu llwyfan cymunedol lle gall pobl fwyta, cyfarfod a dweud wrthym am y pethau sy’n bwysig iddyn nhw.

Bwyd Dros Ben Aber – Pwy ydyn nhw a beth maen nhw’n ei wneud

food-surplus-1senedd.jpg

Mae Bwyd Dros Ben Aber yn cymryd camau i leihau gwastraff bwyd yn Aberystwyth. Maen nhw’n casglu bwyd mae busnesau lleol yn ei daflu ac yn ei ailddosbarthu o fewn y gymuned. Drwy brydau “Pay As You Feel”, mae’r cyd-sylfaenwyr Chris Woodfield, Chris Byrne a Heather McClure yn dod â phobl leol at ei gilydd ac yn dangos bod “gwastraff” da yn gallu bod yn flasus ac yn faethlon. Eu gweledigaeth yw i Aberystwyth fod yn enghraifft arloesol o gynaliadwyedd bwyd. Yn rhywle lle caiff bwyd ei dyfu, ei ddosbarthu a’i fwyta mewn ffordd deg ac yn gynaliadwy o ran yr amgylchedd – lle mae pobl o bob oedran a chefndir yn dod at ei gilydd i fwynhau.

Buom yn siarad â Chris Woodfield i gael rhagor o wybodaeth.

Beth wnaeth dy ysbrydoli i ddechrau Bwyd Dros Ben Aber?

Gweithredu’n lleol ar newid amgylcheddol gyda phobl debyg. Rydym i gyd yn angerddol ynghylch effaith gwastraff bwyd ar yr amgylchedd ac roeddem yn awyddus i wneud ein gorau i sicrhau newid ar lawr gwlad i’r broblem fyd-eang hon ac ar yr un pryd i rannu hyn â’n cymuned a gweld sut y gallwn ni oll gydweithio i gyfrannu’n gadarnhaol at ein hamgylchedd lleol.

food-surplus-2senedd.jpg

Pa effaith mae Bwyd Dros Ben Aber wedi’i chael ar y gymuned leol?

Credwn fod Bwyd Dros Ben Aber wedi cael effaith gadarnhaol ar y gymuned leol drwy ddarparu prydau bwyd “Pay As You Feel” iachus yn rheolaidd yn ogystal ag ailddosbarthu tua 300kg o wastraff bwyd bob wythnos. Rydym yn parhau i ysbrydoli a grymuso gwirfoddolwyr i weithredu’n lleol a chynnig cyfleoedd gwirfoddoli ystyrlon a buddiol.

Beth yw eich uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol?

Mae ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn canolbwyntio ar hwyluso’r broses o greu canolfan gymunedol ac amgylcheddol greadigol yng nghanol Aberystwyth. Rydym yn angerddol ynghylch cefnogi ein heconomi leol, gan ddarparu cyflogaeth ystyrlon ar lefel graddedigion a chefnogi ein cymuned i ffynnu.  Yn y pen draw, credwn y gall Aberystwyth ddod yn astudiaeth achos enghreifftiol ac yn dref arloesol o ran bod yn gymuned dim gwastraff bwyd ac yn lle llewyrchus i fyw, dysgu a thyfu.

Original blog post can be found here https://blogcynulliad.com/2018/12/05/aberystwyth-cymuned-bwyd-a-gweledigaeth/

Aber Food Surplus